Bugeiliaid y Stryd

Beth sy’n cysylltu potel o ddŵr, carthen ofod (space blanket), fflip-fflops a lolipop?

Dyma offer angenrheidiol sydd gan Fugeiliaid y Stryd wrth iddynt grwydro strydoedd Pontypridd yn hwyr ar nos Sadwrn.

Daeth Peter Lewis at Ferched y Wawr, cangen Pontypridd, ar gychwyn y tymor newydd i siarad am waith y gwirfoddolwyr hyn sydd allan ym mhob tywydd, haf a gaeaf. Maent yn bresenoldeb tawel a chyfeillgar ar ein strydoedd ac yn barod a’u cymwynas i unrhyw un sydd allan yn joio ar y penwythnos.

Fe wnaeth Peter ofyn sawl cwestiwn i’n hysgogi i ystyried sut fath o fyd sydd yng nghanol y dre ar nos Sadwrn. Yn sicr mae’n fyd dieithr i ni gyd, o’i gymharu â’ r Ponty ‘rydym yn adnabod yn ystod weddill yr wythnos. Dysgasom lawer (wyddwn i ddim bod cymaint o’r dref o dan wyliadwriaeth ‘CCTV’ yn un peth) a chawsom ein herio hefyd – yn enwedig o ystyried mai hwn yw ein cymuned ni, yr ydym i gyd yn rhan ohoni.

Fe gawsom gasgliad ar y noson a chasglu dros £60 i’r elusen haeddiannol hon. A phwy a ŵyr – efallai y gwelwn rai o aelodau Merched y Wawr yn helpu ryw noson?

A beth am yr offer?
– dwr i’r rhai sydd wedi yfed gormod ac yn teimlo’ sâl
– carthen ofod adlewyrchol (tebyg i’r rhai sy’n cael eu rhoi i redwyr marathon ar ddiwedd y ras) i’r rhai ddi-got sy’n disgwyl awr am dacsi ym mherfeddion y nos, rhag iddynt hanner sythu i farwolaeth
– fflip-fflops i’r merched sydd wedi ffaelu gwisgo’u sodlau uchel ddim mwy
– a’r lolipop – wel, mae’n debyg mai beth sydd orau i dawelu’r dyfroedd pan mae’r bechgyn yn bygwth clatsio yw dynes oedrannus (y ‘fam-gu’) yn cynnig lolipop iddynt!

Cwis Hwyl Merched y Wawr

Tro cyntaf i fi gystadlu yn y cwis, fel aelod o dîm Cangen Pontypridd, ac oedd – ‘roedd yn hwyl.
‘Sai’n dda am ‘nabod, na dod i ‘nabod pobl eraill, ond ‘ro’n i’n falch o ‘nabod un person o’r timoedd eraill – sef cyfnither i mi. Cyfle i gyfnewid hanes y teulu a rhannu’n profiadau o Fyw. ‘Ro’n ni’n dwy yn cytuno fod amgylchu’n hunain yn sŵn y Gymraeg (hyd yn oed am ddim ond dwy awr y mis) yn help mawr i wella’n Cymraeg.

Mae bod mewn cyfarfod yn debyg i gael bath cynnes gyda’r holl foethau persawrus – teimladau o wedi ymlacio’n hapus braf. Mae’n drueni mai profiad prin, moethus yw hyn ac nid profiad arferol, bob dydd.

Y cwis – ddim rhy hawdd i fod yn ddiflas a dim rhy anodd i wneud i ni ddanto. Rhaid gweud i ni lwyddo’n weddol, gan ddod yn ail i’r Bontfaen yn ein rhanbarth. Mae llwyddiant yn adio at yr hwyl! Yn sicr mae wedi codi awch arna’i i gystadlu eto.

Pa mor hir fydd effaith y bath Cymraeg hwn yn para, ‘sgwn i?